Public Sector Network Tender Alert

 

Cyfle am Grant Meithrin Gallu Talu yn ôl Canlyniadau (TyoC) ar gyfer y Sector Gwirfoddol a Chymunedol (SGCh)

Mae’r Llywodraeth wedi’i hymrwymo i wella effeithiolrwydd, gwerth am arian ac arloesi yn y sector cyfiawnder, ac mae’n bwriadu gwneud hynny drwy ddefnyddio talu yn ôl canlyniadau (TyoC). Gweledigaeth y Llywodraeth yw marchnad amrywiol lle ceir cystadleuaeth rhwng ystod helaeth o ddarparwyr, a’r rheiny’n cynnwys cwmnïau preifat a mudiadau SGCh fel ei gilydd. Fodd bynnag, bach fu cyfraniad y SGCh yng nghynlluniau peilot TyoC y sector cyfiawnder cyn belled. Mae cynyddu cyfraniad y SGCh yn hollbwysig o ran datblygu TyoC yn y sector cyfiawnder. Mae gan fudiadau SGCh, gyda’u cysylltiadau a’u gwybodaeth leol, eu profiad arbenigol a’u henw da am arloesi, y potensial i gynnig atebion effeithiol, a’r rheiny wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer amgylchiadau lleol, i leihau aildroseddu. Mae hwn yn grant o hyd at £150,000 i lunio cynllun gweithredu Meithrin Gallu i ddatblygu gallu a medr mudiadau SGCh i gyfrannu’n llwyddiannus at raglenni TyoC y sector cyfiawnder. Dylai mudiadau nodi bod y grant yn cael ei roi ar gyfer y pwrpas penodol hwn; sef cynhyrchu cynllun gweithredu ac nid darparu gwasanaeth. Rhoddir y Grant ym mis Rhagfyr 2012, ar gyfer gwaith i ddigwydd yn y flwyddyn ariannol hon – 2012/13.

Ref: 2872-2-Lleihau Aildroseddu-SE-RFI ,

Contact:

Ministry of Justice (MoJ) Procurement - CMT L&SE
SW1H 9HD
Kerry Chon
RPU.LondonSouthEast@noms.gsi.gov.uk

Contract value: 150000.00 - 150000.00GBP

Published: 5 Dec 2012, Receipt by: 5 Dec 2012